Bydd sengl Nadolig 2024 Angharad ar gael ar 1af Rhagfyr ar eich polatfformau digidol arferol.
Os ewch chi i Ynys y Barri'r wythnos hon fe welwch chi bosteri a baneri yn hysbysebu Gŵyl Fach y Fro - digwyddiad blynyddol sydd yn mynd o nerth i nerth gyda cherddoriaeth, gweithgareddau, stondinau, bwyd a diod. Uchafbwynt y calendr Cymraeg i bawb yn y Fro yn sicr, ond yn uchafbwynt i Angharad Rhiannon am resymau gwahanol eleni.
"Dwi wedi bod yn mynychu Gŵyl Fach y Fro ers blynyddoedd ac yn cyhoeddi'r artistiaid ar y llwyfan. Mae'n ddigwyddiad anhygoel ac mae wedi bod yn fraint i fod yn rhan ohoni a'i gweld yn tyfu bob blwyddyn. Blwyddyn ddiwethaf, 2023, ces i fy ngwahodd i berfformio yn yr ŵyl. Dyma fyddai fy mherfformiad cyntaf fel artist unigol. Ro'n i wedi gwirioni... Ond yn anffodus roedd gan fy mhendics syniadau gwahanol"
Pythefnos cyn yr ŵyl, cafodd Angharad lawdriniaeth brys i dynnu'r coluddyn crog. Yn anffodus roedd rhaid iddi ganslo ei pherfformiad yng Ngŵyl Fach y Fro gan nad oedd hi'n ddigon iach i berfformio.
"Allai ddim esbonio'r siom. Siŵr bod rhai yn meddwl dim ond gig oedd hi... ond mae Gŵyl Fach y Fro yn arbennig."
Er siom y llynedd, y newyddion da yw bod Angharad wedi cael cynnig arall i berfformio eleni ac mi fydd hi'n cael bod yn rhan o Ŵyl Fach y Fro 2024.
"Dwi mor ddiolchgar am gael cyfle arall. Dwi methu aros - wir! Os dych chi'n chwilio am rywbeth i'w wneud Dydd Sadwrn, dyma fe! Dewch i Ŵyl Fach y Fro! Mae'n fraint cael bod yn rhan ohoni ac i weld fy enw wrth ochr rhai o artistiaid gorau Cymru!"
Fel rhan o'i pherfformiad, bydd Angharad yn perfformio'i sengl newydd "Laru" am y tro cyntaf. Mae "Laru" wedi bod allan ar blatfformau digidol ers 3ydd o Fai ac wedi cael dipyn o lwyddiant ar orsafoedd radio lleol hyd yn hyn. Mae Angharad hefyd yn addo perfformio cân newydd arall ar y diwrnod.
"Bydd cyfle i glywed y sengl newydd "Laru" cwpwl o'r ffefrynnau fel "Taro Deuddeg" ac ecsgliwsif bach hefyd achos byddai'n canu cân newydd sbon!"
Bydd Angharad yn perfformio am 11:40am.
Mae gen i gân newydd yn dod mas cyn bo hir. Enw'r gân yw Laru a bydd hi ar gael yn ddigidol ar 03.05.24. Nes i joio ysgrifennu a recordio hon felly dwi wir yn gobeithio wnewch chi fwynhau hi hefyd.
Mi fydda i'n perfformio yng Ngŵyl Fach y Fro ar 18.05.24 ac yna gyda Bronwen Lewis yng Ngartholwg ar 25.05.24 mewn gig codi arian at yr Eisteddfod, felly bydd mis Mai yn un llawn cyffro i fi. Gobeithio welai chi yn un o'r gigs. Dewch draw i ddweud helo!
Ewch at Laru ar Spotify
Erthygl Laru Y Selar
Mae 2023 wedi bod yn flwyddyn a hanner i fi ac yn llawn cyflawniadau personol a cherddorol. Dwi mor ddiolchgar i bawb wnaeth rhoi cyfle i mi berfformio eleni, i bawb sydd wedi chwarae’r caneuon ar y radio neu’r teledu, i bawb wnaeth brynu’r gerddoriaeth, i bawb ddaeth i’n ngweld i, i bawb pleidleisiodd yn ngwobrau Y Selar, i bawb sydd wedi cefnogi fi mewn unrhyw ffordd ar y siwrne yma. Dwi methu aros i weld be ddaw nesa yn 2024.
I orffen beth sydd wedi bod yn flwyddyn hynod y gyffrous i mi, mae gen i sengl newydd o’r enw Un Nadolig. Cafodd y sengl ei chwarae am y tro cyntaf ar BBC Radio Cymru gan Marci G ar 27/11. Mae'r sengl ar gael yn ddigidol yn y mannau arferol nawr. Gobeithio byddwch yn mwynhau’r gân. xxx
Gig arbennig, nos Wener 15 Medi yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol De Cymru, Trefforest. Trefnir gan Bwyllgor Codi Arian Ardal Taf. Elw tuag at Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.
Dwi a Todd yn Stompbox wedi bod yn brysur iawn dros y misoedd diwethaf yn recordio. Mae dal llawer o waith i'w wneud cyn bydd yr ail albwm yn barod ond dyma un gân ro'n i'n meddwl oedd yn addas ar gyfer diwedd yr haf felly ro'n i ishe rhyddhau hi nawr. Mae'r gwaith celf retro gan Letterfella ac yn cyd-fynd â'r geiriau mor dda. Ro'n i ishe ysgrifennu rhywbeth byddai'n gwneud i bobl wenu. Gobeithio bod hon yn gân fach hapus i orffen gwyliau'r haf.
Mae 2023 wedi bod yn flwyddyn o gyffro hyd yn hyn i Angharad Rhiannon ac i Alistair James gyda’r ddau yn gwireddu breuddwydion cerddorol. Mae’r ffrindiau wedi dod at ei gilydd i ddathlu trwy gydweithio ar y sengl ‘Carnifal’. Chwareuwyd Carnifal am y tro cyntaf ar raglen Ifan Jones Evans ar Radio Cymru ar 27.06.23. Bydd Angharad ac Alistair yn perfformio'r gân ar Heno, S4C ar Nos Iau 06.07.23. Bydd y sengl ar gael o 07.07.23.
Traed ar y ddaear unwaith eto... Jest!! DIOLCH i bawb am bleidleisio, i'r Selar am gynnig y gwobrau yma bob blwyddyn ac i Ifan Jones Evans a Dai am roi sypreis anhygoel i fi ar BBC Radio Cymru. Mae'n swyddogol taw SEREN yw RECORD HIR ORAU gwobrau'r Selar eleni. Waw!
DIOLCH
Dyma'r foment wnaeth Ifan Jones Evans gyhoeddi'r enillydd: SoundCloud
Mi fydda i'n perfformio ar raglen deledu Noson Lawen yng Nghanolfan Garth Olwg, Pentre’r Eglwys ar yr ail o Dachwedd. Nadolig y Cymoedd yw'r thema gyda Shelley Rees yn cyflwyno.
Os hoffech fod yn rhan o’r gynulleidfa, ebostiwch telerij@yahoo.com neu ffoniwch 07790351179.
Dych chi'n barod am gerddoriaeth newydd? Mae fy albwm ar ei ffordd. 1 mis i fynd...
Cafodd Rhedeg Atat Ti ei rhyddhau ar 30/08/22. Roedd y gan yn Drac yn Wythnos ar Radio Cymru wythnos 22/08/22.
Gyda’r Nadolig yn agosáu, mae’n siŵr bydd yr hen ffefrynnau o ran caneuon Nadolig yn dechrau tincian ar eich radio cyn bo hir, ond efallai eleni byddwch yn clywed un newydd yn eu plith…
Cafodd Angharad Rhiannon lwyddiant gyda’i sengl gyntaf, Taro deuddeg, sydd wrth i mi ysgrifennu hon wedi bod ar restr chwarae Radio Cymru am 7 wythnos yn olynol yn ogystal â’i chwarae ar orsafoedd Capital Cymru, GTFM ac eraill. Mae Angharad yn rhyddhau ei hail sengl, “Mae Santa ar ei ffordd”, ar y cyntaf o Ragfyr yn barod ar gyfer tymor yr ŵyl.
Dywed Angharad, “Mae’r flwyddyn a hanner diwethaf wedi bod yn anodd i ni i gyd ac yn arbennig i’r rhai sydd wedi treulio cyfnodau dathlu fel y Nadolig i ffwrdd o’n teulu a ffrindiau. Ro’n i’n gobeithio ysgrifennu rhywbeth byddai’n codi gwên ac ysgogi bach o ddawnsio a joio ar gyfer eleni. Dwi’n credu ein bod ni i gyd angen hynny.”
Mae’r gân wedi’i hysgrifennu o safbwynt plentyn yn gyffro i gyd am antur hud Santa, ond yn wir yn gân gall plant ac oedolion fwynhau blwyddyn ar ôl blwyddyn.
Stephen Davies, sy’n ewythr i Angharad, sydd wedi creu’r gwaith celf drawiadol sy’n cyd-fynd a’r gân yn berffaith.
Bydd "Mae Santa ar ei ffordd" ar gael i’w brynu, lawrlwytho neu ffrydio ar blatfformau digidol o’r cyntaf o Ragfyr eleni.
Mae Angharad Rhiannon, o gwm Cynon, wedi rhyddhau ei sengl gyntaf ar 17 Medi. Mae’r sengl yn cynnwys 2 drac Cymraeg; Taro Deuddeg a Seren, a fersiwn Saesneg o Seren, sef Northern Star. Mae Angharad yn gyn-aelod o’r band
Dragonfall lle bu’n rhannu llwyfan gyda’i rhieni, ac eisoes wedi canu gydag Alistair James. Dyma ei sengl gyntaf fel artist unigol.
Letterfella sydd wedi dylunio’r gwaith celf ar gyfer y sengl. Cymrodd ysbrydoliaeth o eiriau’r caneuon i greu’r clawr. Yr unig friff gan Angharad oedd cynnwys sêr.
Dechreuodd Angharad recordio yn 2019 yn stiwdio Stompbox gyda Todd Campbell, ond fel mae llawer o artistiaid wedi profi, mae’r pandemig wedi rhwystro neu arafu llawer o’r gwaith recordio a chynhyrchu. Mae’r gwaith cynhyrchu yn parhau ar ei halbwm cyntaf a disgwylir i hyn gael ei rhyddhau blwyddyn nesaf.
Copyright © 2024 Angharad Rhiannon - All Rights Reserved.